Use APKPure App
Get Straeon Celtaidd old version APK for Android
Sustrans Storïau Beicio Cerdded Hamdden
Dewch i nabod llwybrau a chwedlau Cymru gydag App Straeon Celtaidd
Mae Straeon Celtaidd yn app hamdden newydd cyffrous i deuluoedd. Gallwch lawrlwytho’r app a chanfod hanesion hudolus a storïau swynol wrth i chi feicio trwy diroedd gwledig dymunol, ardaloedd arfordirol trawiadol a darnau dinas yn ferw o brysurdeb.
Cam 1: Dewiswch eich llwybr. Cewch ddewis o blith chwe llwybr di-draffig gwych. Os beiciwch yn hamddenol, gallwch ddisgwyl i’ch antur bara rhwng awr a thair awr yn dibynnu pa lwybr a ddewiswch.
Cam 2: Dewiswch ddilyn ‘stori hanesyddol’ neu ‘ddatrys dirgelwch’. Cewch seiclo yn ôl mewn amser ar antur hanesyddol gyda’ch tywysydd personol neu ymuno ag yr Ymchwilwraig Breifat, Maxine Hardy, i ddatgloi cliwiau a datrys sawl dirgelwch – o drafferthion gydag ysbrydion arswydus i ladradau sy’n ymddangos yn amhosib.
Cam 3: Cynlluniwch eich antur. Mae'r app Straeon Celtaidd yn cynnwys popeth y mae arnoch ei angen i gynllunio’ch diwrnod. O lefydd i logi beiciau a mwynhau picnic, i gaffis ac atyniadau, gallwch ddefnyddio’r app i ganfod beth sydd i’w weld a’i wneud ar bob llwybr.
Mae Straeon Celtaidd ar gael i'w lawrlwytho yn rhad ac am ddim o Google Play ac AppStore Apple neu gallwch ddarganfod mwy: www.sustrans.org.uk/celtictales
Wedi optimeiddio ar gyfer Android 4.4 ac uwch.
Last updated on Jul 21, 2016
Minor bug fixes and improvements. Install or update to the newest version to check it out!
Przesłane przez
Alexandre Ale
Wymaga Androida
Android 2.1+
Kategoria
Raport
Straeon Celtaidd
1.1.0 by Sustrans Digital
Jul 21, 2016