ae yr awyddfryd cynyddol sydd yn mhlith y Cymry i ymgydnabod yn fwy â’r iaith Saesoneg yn un o arwyddion gobeithiol yr amserau. Am bob un o’n cydgenedl ag oedd yn deall Saesoneg yn nechreuad y ganrif hon, mae yn debyg na fethem wrth ddyweud fod ugeiniau os nad canoedd yn ei deall yn awr. O’r ochor arall, y mae rhifedi mwy nag a feddylid o’r Saeson sy’n ymweled a’n gwlad yn ystod misoedd yr hâf yn gwneuthur ymdrech nid bychan i ddysgu Cymraeg.
Ond mae yn eglur nas gall neb feistroli iaith estronol heb gymorth geiriaduron. Nis gellir dyweud fod y gwahanol Eiriaduron sydd yn awr ar y maes yn rhai ymarferol o herwydd y mae ynddynt filoedd o eiriau nad arferwyd erioed, ac ond odid nad arferir byth; ac y mae hyny, wrth reswm, yn chwyddo y gwaith, nes peri ei fod allan o gyraedd y dosparth iselradd. Geiriadur rhad ymarferol yw hwn i’r lluaws nad allant hyfforddio i gael rhai mwy.
Ond er fod llawer o’r geiriau anarferedig wedi eu gadael allan, eto y mae yn cynwys pob gair sydd mewn arferiad gyffredin wrth siarad ac ysgrifenu.
Cymerwyd gofal mawr yn narlleniad y tafleni, fel yr hyderir nad oes ynddo un gwall gwerth ei nodi.
تازہ ترین ورژن
1.0اپ لوڈ کردہ
Amstrongk Keghter
Android درکار ہے
Android 2.3.2+
کٹیگری
مفت کتابیں اور حوالہ ایپمواد کی درجہ بندی
Everyone
رپورٹ کریں
فلیگ غیر موزوں ہےLast updated on Mar 3, 2016
اس ورژن میں معمولی بگ فکسز اور عمومی بہتریاں شامل ہیں۔ بہترین تجربے کے لیے تازہ ترین ورژن پر اپ ڈیٹ کریں۔